Cofnodion

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016, 14:00

Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

Pwnc trafod: Adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ‘Dementia: Mwy na dim ond colli’r cof’

Yn bresennol:

Eluned Parrott AC (Cadeirydd), Altaf Hussain AC, Sarah Rochira (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Mia Rees (Staff Cymorth Darren Millar AC), Paul Sotis (Staff Cymorth David Melding AC), Michael Wallace (Staff Cymorth Eluned Parrott AC), Sue Phelps, Ed Bridges, Natalie Owen, Amy Kitcher (Cymdeithas Alzheimer), Daisy Cole, Richard Jones, Josh Hayman (Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Graeme Francis, Ceri Cryer, Terry Woodsford, Suzy Webster, Anne Jones, Rosanne Palmer (Age Cymru), Nesta Lloyd-Jones (Conffederasiwn GIG), Rosie Tope (Gofalwyr Cymru), Jane Lewis (Gofal Hafod), Jacqueline Duke (GIG), Lynda Wallis (Fforwm Strategaeth 50+ y Fro), Beti George (Gofalwr), Giulia D’Aulerio (Ysbyty Athrofaol Cymru), Pat Charles (Senedd Pobl Hŷn Cymru, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru), Marianne Mans a Dee Jones (Pencampwyr Cyfeillion Dementia)

Croeso a chofnodion

Croesawodd Eluned Parrott AC bawb i’r cyfarfod. Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a chytunwyd arnynt.

Dementia: Mwy na dim ond colli’r cof

 

Rhoddodd Sarah Rochira (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru) drosolwg o’r adroddiad newydd ‘Dementia: Mwy na dim ond colli’r cof’.

Bu Suzy Webster (Age Cymru a gofalwr ar gyfer ei mam) yn disgrifio’r rhwystrau sydd wedi wynebu ei theulu wrth ofalu am ei mam, sydd â dementia.

Sylwadau a chwestiynau gan aelodau’r grŵp

 

Cafwyd cwestiynau a sylwadau o’r llawr.

 

 

Trosolwg o ymgyrch ‘45,000 o resymau’ y Gymdeithas Alzheimer 

 

Rhoddodd Ed Bridges drosolwg o ymgyrch yr elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ddementia i Gymru.

 

Cloi

 

Diolchodd Eluned Parrott AC i bawb am eu presenoldeb, a daeth y cyfarfod i ben.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

http://www.dementiafriends.org.uk/resource/1308907371000/AlzLogo